Lleoliad:
O bell drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 10 Mawrth 2022
Amser:
09.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Helen Finlayson
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddIechyd@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu bod y cyhoedd wedi eu gwahardd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Caiff y cyfarfod hwn ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv.
Rhag–gyfarfod preifat (09.00-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(09.30)
2 Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Alzheimer Cymru
(09.30-10.30) (Tudalennau 1 - 42)
Huw Owen,
Swyddog Polisi, Cymdeithas Alzheimer Cymru
Angela Davies, Gofalwr di-dâl
Briff ymchwil
Papur 1 - Cymdeithas Alzheimer Cymru
Egwyl (10.30-10.45)
3 Iechyd menywod a merched: sesiwn dystiolaeth gyda Chlymblaid Iechyd Menywod Cymru
(10.45-12.00) (Tudalennau 43 - 69)
Deborah Shaffer, Sylfaenydd - Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
Dee Montague, Swyddog Ymgysylltu - Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
Gemma Roberts, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus - British Heart Foundation Cymru
Papur briffio Ymchwil y Senedd
Papur 2 - Clymblaid Iechyd Menywod Cymru
4 Papurau i'w nodi
(12.00)
4.1 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd
(Tudalennau 70 - 72)
4.2 Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd
(Tudalennau 73 - 78)
4.3 Ymateb gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i'r Cadeirydd ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd
(Tudalennau 79 - 86)
4.4 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed a'r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer organau, meinweoedd a chelloedd (ac eithrio embryonau a gametau)
(Tudalennau 87 - 89)
4.5 Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed a'r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer organau, meinweoedd a chelloedd (ac eithrio embryonau a gametau)
(Tudalennau 90 - 94)
4.6 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles at y Cadeirydd ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer labelu, cyfansoddiad a safonau sy'n gysylltiedig â maeth
(Tudalen 95)
4.7 Llythyr dilynol gan y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ynghylch rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai
(Tudalennau 96 - 97)
4.8 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeiryddion Pwyllgorau'r Senedd ynghylch canfyddiadau ei waith ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ar ei flaenoriaethau yn y Chweched Senedd
(Tudalennau 98 - 127)
4.9 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memoranda Rhif 2 a Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal
(Tudalennau 128 - 129)
4.10 Llythyr gan y Cadeirydd at Brif Weithredwyr Byrddau Iechyd ynghylch rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai
(Tudalennau 130 - 131)
4.11 Ymateb gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i'r Cadeirydd ynghylch rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai
(Tudalen 132)
4.12 Llythyr dilynol gan Gofal a Thrwsio ynghylch cyfarfod y Pwyllgor ar 14 Chwefror 2022
(Tudalen 133)
4.13 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y Bil Optometreg
(Tudalen 134)
4.14 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd ynghylch defnydd o'r term BAME
(Tudalennau 135 - 136)
4.15 Ymateb Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch defnydd o'r term BAME
(Tudalennau 137 - 138)
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
(12.00)
6 Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: trafod y dystiolaeth
(12.00-12.10)
7 Iechyd menywod a merched: trafod y dystiolaeth
(12.10-12.20)
8 Fframweithiau cyffredin: trafod y dystiolaeth
(12.20-12.35) (Tudalennau 139 - 180)
Papur 3 – fframweithiau cyffredin